Gwefan newydd Ebrill 2020

Amdanom ni

Lansiwyd Blasus.Cymru ym mis Ebrill 2020, mewn ymateb i Argyfwng Covid19. Nod Blasus.Cymru yw mynd i'r afael â'r angen am siop ar-lein sy'n arbenigo mewn bwyd a diod o Gymru o ansawdd uchel.

Gan ddechrau gydag ystod gymharol gyfyngedig, ein nod yw datblygu'r dewis yn raddol.Byddwn yn cael ein llywio gan 3 phrif egwyddor yr ydym yn eu hystyried yn bwysig:

  - Cynnyrch Cymreig neu cynnyrch wedi'i gwneud â chynhwysion Cymreig er mwyn sicrhau'r buddion economaidd mwyaf posibl i economi Cymru.

  - Ansawdd uchel i sicrhau eich bod chi'n mwynhau'r cynhyrchion.

  - Cynhyrchwyr sy'n amlwg yn gwneud eu cyfran deg dros eu cymuned a'r amgylchedd.

Diolch am ddewis siopa gyda Blasus.Cymru ac os ydych chi am gael y wybodaeth ddiweddaraf am y cynnydd, mae croeso i chi danysgrifio i'n e-gylchlythyr trwy gyflwyno'ch cyfeiriad e-bost yn y blwch ar waelod yr hafan.

Geraint Hughes, James Hughes ac Heulwen Williams