Wonderful story of Welsh honey - Stori hudolus mêl o Gymru
The Welsh honey sector continues to go from strength to strength, with ‘Mêl’, developed by Madryn Foods and launched last month being the latest addition to the quality choice on the market.
Due to a shorter growing season than many parts of the UK, Wales typically produces less honey, which makes the Welsh ‘liquid gold’ even more precious.
The Welsh Beekeepers’ Association is the national support organisation for beekeepers in Wales and is made up of 1,943 members, which represents around half of all beekeepers in the country.
“We regularly get interest from our trade customers asking for Welsh honey,” explained Geraint Hughes, Managing Director of Madryn Foods based in Conwy. “It’s in response to this we have developed the brand ‘Mêl’. ‘Mêl’ is the Welsh word for “honey” and is very similar to many other languages such as “le miel” in French and “Miel” in Spanish.
Thoughout history, bees and honey have featured strongly in many cultures and mythologies. Cave drawings dated around 6000 BC in Spain depict honey being harvested, with similar drawing found also in India, many African countries and Australia.
Closer to home, Welsh legend of the sow Henwen (“Old White One”), who gives birth to a grain of wheat and a bee in Gwent, suggests that Wales has always been an excellent place for bees. Henwen embodies a woman of indomitable powers as well as being close to nature, the latter of which is essential for beekeeping.
Hywel Dda, a 10th century Welsh King and one of the greatest lawmakers Wales has ever seen, conveyed the importance of bees and honey and the reverence in which they were held in his laws.
Mead, perhaps one of the oldest alcoholic drinks, made by fermenting honey and water also has a rich Welsh heritage.
Guto'r Glyn, a fifteenth century poet from Wales celebrates mead in his work, praising Rhys ap Dafydd of Uwch Aeron for his fresh mead, highlighting it’s health properties!
Bee boles, which are purpose made cavities to house skeps, a straw basket made for bees, can be found in walls throughout Wales. The largest collection on record in the UK is in the National Trust’s Dolmelynllyn Estate, at Ganllwyd near Dolgellau. A staggering 48 bee boles can be viewed in the estate’s wall, a nod to the rich bee forage that can be found in the area.
“Honey is one of nature’s most powerful foods, but it also tastes fantastic” said Geraint Hughes. “Our forefathers obviously knew this. This is why we feel it’s important that we, like all the other excellent honey producers in Wales, continue to sing the praises of natural unpasteurised honey, harvested by hand straight from the hive. How honey is harvested and handled makes a big difference.”
The current COVID-19 pandemic has led to a surge of beekeepers establishing new digital outlets for their honey.
“We have experienced very strong interest in Welsh honey on our retail website,” explained James Hughes who co-founded the ‘Blasus.Cymru’ site earlier this year to specialise in Welsh food and drink. “Due to strong demand for Welsh honey, we sell honey from experienced beekeeper John R Jones on Pen Llŷn and ‘Mêl’ from Madryn Foods which is harvested in Monmouthshire. Both were very popular Christmas gifts.”
With honey being cited a more effective remedy for coughs, blocked noses and sore throats in a Britsih Medical Journal study, it is no wonder that the sales of Welsh honey is flying.
Nectar collected from plants by bees naturally show anti-viral, anti-bacterial, anti-fungal and anti-inflammatory properties. It’s also a rich source of important vitamins, minerals and enzymes.
In recent months, there has been reports of a surge in the popularity of beekeeping as new enthusiasts pursue the craft in their own gardens, backyards or even rooftops.
“I know the decline of honey bees has been a worrying conservation matter in recent years, so it is very heartening to see the growth in bee keeping,” said Geraint Hughes from Madryn Foods. “Albert Einstein declared that if the honeybee were to become extinct, the human species would die out in four years. Let continue to celebrate the wonder of honey, especially our own local honeys.”
-------
Mae’r sector mêl Cymreig yn parhau i fynd o nerth i nerth, gyda ‘Mêl’, a ddatblygwyd gan Bwydydd Madryn yn un o’r ychwanegiadiau diweddaraf at restr Cymru o fêl o’r ansawdd uchaf.
Oherwydd tymor tyfu byrrach na gweddill y DU, mae Cymru’n cynhyrchu llai o fêl, gan wneud ein mêl euraidd hyd yn oed yn fwy gwerthfawr.
Mae Cymdeithas Gwenynwyr Cymru yn sefydliad sy’n darparu cymorth i wenynwyr yng Nghymru, ac yn cynnwys 1,943 o aelodau, sy’n cynrhychioli oddeutu hanner yr holl wenynwyr yn y wlad.
“Mae diddordeb cyson gan ein cwsmeriaid masnachol am fêl o Gymru,” esboniodd Geraint Hughes, Rheolwr Gyfarwyddwr Madryn Foods yng Nghonwy. “Mewn ymateb i hyn rydym wedi datblygu’r brand ‘Mêl’. Mae’r gair ‘Mêl’ yn debyg i “le miel” yn Ffrangeg a “Miel” yn Sbaeneg.
Mae hanes gwenyn a mêl wedi cael sylw blaenllaw mewn diwylliant a mytholeg. Mae lluniau mewn ogofâu yn dyddio o tua 6000 CC yn Sbaen yn darlunio mêl yn cael ei gynaeafu, gyda lluniau tebyg i'w cael hefyd yn India, Affrica ac Awstralia.
Yn agosach at adref, mae chwedl yr hwch Henwen, sy’n esgor ar rawn o wenith a gwenyn yng Ngwent, yn awgrymu bod Cymru wedi bod yn lle rhagorol i wenyn erioed. Mae Henwen yn ymgorfforiad o fenyw gyda pwerau anorchfygol yn ogystal â bod yn agos at fyd natur. Mae'r ail o'r rhain yn hanfodol ar gyfer cadw gwenyn.
Roedd y Brenin Hywel Dda o’r 10fed ganrif, un o'r deddfwyr mwyaf a welodd Cymru erioed, yn cyfleu pwysigrwydd gwenyn a mêl a'r parch atynt yn gyson yn ei gyfreithiau.
Mae gan fedd, un o'r diodydd alcoholig hynaf, a wneir trwy eplesu mêl a dŵr hefyd dreftadaeth Gymreig gyfoethog.
Mae Guto’r Glyn, (15efd ganrif) yn dathlu medd yn ei waith, gan ganmol Rhys ap Dafydd o Uwch Aeron am ei fedd ffres, gan dynnu sylw at ei briodweddau o ran iechyd: “Glasfedd i’w gyfedd a gaf//Gan hwn, llawer gwan a’i hyf.”
Gellir dod o hyd i dyllau gwenyn mewn waliau ledled Cymru, gyda’r mwyaf ar gofnod yn y DU yn Ystâd Dolmelynllyn yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol yn Ganllwyd ger Dolgellau. Gellir gweld 48 o dyllau gwenyn ar gyfer basgedi gwenyn yn wal yr ystâd, sy’n brawf o’r porthiant gwenyn cyfoethog yn yr ardal.
“Mae mêl yn un o fwydydd mwyaf pwerus byd natur, sydd hefyd yn blasu'n wych” meddai Geraint Hughes. “Roedd ein cyndadau yn amlwg yn gwybod hyn. Dyma pam rydyn ni'n teimlo ei bod hi'n bwysig ein bod ni, fel yr holl gynhyrchwyr mêl rhagorol eraill yng Nghymru, yn parhau i ganu clodydd mêl naturiol heb ei basteureiddio sydd wedi'i gynaeafu â llaw yn syth o'r cwch gwenyn. Mae'r ffordd y mae mêl yn cael ei gynaeafu a'i drin yn gwneud gwahaniaeth mawr."
Mae’r pandemig COVID-19 wedi arwain at gynnydd yn y nifer o wenynwyr sydd wedi sefydlu llwyfan digidol newydd ar gyfer gwerthu mêl.
“Rydyn ni wedi profi diddordeb cryf iawn mewn mêl o Gymru ar ein gwefan manwerthu,” esboniodd James Hughes a gyd-sefydlodd y safle ‘Blasus.Cymru’ yn gynharach eleni i arbenigo mewn bwyd a diod o Gymru. “Oherwydd galw mawr am fêl o Gymru, rydym yn gwerthu mêl gan y gwenynwr profiadol John R Jones o Ben Llŷn a‘ Mêl ’gan Madryn Foods sy’n cael ei gynaeafu yn Sir Fynwy. Roedd y ddau yn anrhegion Nadolig poblogaidd iawn.”
Gyda mêl yn cael ei ystyried yn feddyginiaeth effeithiol ar gyfer peswch, trwynau llawn a dolur gwddf mewn astudiaeth gan y British Medial Journal, does ryfedd fod gwerthiant Mêl Cymreig yn ffynnu.
Mae neithdar pur yn cynnwys priodweddau iechyd gwrth-firaol, gwrth-facteriol, gwrth-ffwngaidd a gwrthlidiol naturiol. Mae hefyd yn darparu fitaminau, mwynau ac ensymau pwysig.
Yn ystod y misoedd diwethaf, mae poblogrwydd cadw gwenyn wedi cynyddu, gyda dwsinau o wenynwyr newydd yn dewis meithrin y grefft yn eu gerddi eu hunain, iardiau cefn neu hyd yn oed ar doeau tai.
“Rwy’n gwybod bod dirywiad gwenyn mêl wedi bod yn fater cadwraeth sydd wedi achosi pryder dros y blynyddoedd diwethaf, felly mae'n galonogol gweld y twf mewn cadw gwenyn,” meddai Geraint Hughes o Bwydydd Madryn. “Nododd Albert Einstein pe bai gwenyn yn diflannu, yna dim ond am bedair blynedd y gallai dyn fyw. Gadewch inni felly barhau i ddathu rhyfeddod mêl, yn arbennig ein mêl lleol ein hunain.”